Cyngor Caerdydd Gwastraff Masnach
Gan weithio yn y ddinas am dros 40 mlynedd, mae gennym dîm ymroddedig o arbenigwyr sy’n fedrus iawn ym mhob agwedd ar reoli gwastraff.
Rydym yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ac yn defnyddio cyfleusterau datblygedig i droi’r deunyddiau rydyn ni’n eu casglu yn adnodd defnyddiol.
Mae ein holl weithfeydd prosesu o fewn radiws o 1.5 milltir yng Nghaerdydd. Mae hyn yn lleihau ôl troed carbon taith eich gwastraff ac yn cefnogi’r economi leol, werdd.