Lle bo’n bosibl, dylai busnesau geisio gwahanu a gwaredu ar yr holl eitemau gwastraff ailgylchadwy a’r bwyd rhag y gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Yna bydd modd casglu unrhyw wastraff sy’n weddill neu wastraff “cyffredinol” ar wahân.
Gallwn gasglu eich gwastraff cyffredinol mewn sawl cynhwysydd, yn dibynnu ar eich anghenion.
Lle bo’n bosibl, rydym yn argymell y dylai cwsmeriaid ddefnyddio biniau i storio gwastraff. Mae llawer o fanteision o gael biniau.
- Hawdd eu symud
- Hawdd eu cloi
- Ffordd dda o leihau llygotach, arogleuon annifyr a diferiadau
- Ffordd ddiogel o storio pethau siarp a gwydr wedi torri
Bagiau oren
Gorau ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt yn cynhyrchu llawer o wastraff neu sydd heb gyfleusterau storio; gwasanaeth casglu bagiau. Rydym yn rhoi bagiau gwastraff oren i’n cwsmeriaid ar gyfer gwastraff cyffredinol neu wastraff nad oes modd ei ailgylchu sy’n cael ei roi ar ymyl y ffordd i’w gasglu ar eich diwrnod casglu penodol.
Eich dewis chi yw sawl bag a ddefnyddiwch, a thalwch am y bagiau a rowch allan i’w casglu yn unig.
Biniau ag olwynion
Ar gyfer busnesau gyda man storio addas, gallwn gynnig ystod o feintiau biniau ar gyfer faint o wastraff rydych yn ei gynhyrchu. Gall pob bin ddod â chaead y gellir ei gloi.

Bin 240L
Addas ar gyfer 3-4 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1100mm (U) x 580mm (Ll) x 720mm (D)

Bin 360L
Addas ar gyfer 4-5 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1100mm (U) x 620mm (Ll) x 850mm (D)

Bin 660L
Cynhwysydd haearn, addas ar gyfer 8-10 o fagiau gwastraff
Mesuriadau: 1310mm (U) x 1260mm (Ll) x 730mm (D)

Bin 1100L
Cynhwysydd haearn, addas ar gyfer 15-18 o fagiau gwastraff
Mesuriadau: 1370mm (U) x 1260mm (Ll) x 990mm (D)
We can accommodate your requirements by emptying these bins on a schedule that suits you. You will be charged per lift (or empty) of the bin, and we offer a flexible service where additional collections can easily be requested.
These containers can be hired or purchased as part of the service.
Angen cynhwysydd mwy?
Gallwn hefyd gynnig sgipiau i waredu gwastraff cyffredinol, ar gyfer gwaith clirio un tro neu ar gyfer casgliadau rheolaidd.