Call 029 2087 xxxx

Eich contract

Fel rhan o’ch gwasanaeth casglu, mae’n rhaid i chi lofnodi:

Mae hyn yn ffurfio eich contract ac yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, megis:

  • diwrnod eich casgliad,
  • mathau o wastraff y byddwn yn eu casglu,
  • pa mor aml y byddwn yn casglu, a
  • ble mae eich gwastraff yn mynd ar ôl iddo gael ei gasglu.

Os na allwn gasglu oherwydd bai’r cwsmer, codir tâl arnoch o hyd. Er enghraifft, os yw’r eitemau anghywir yn eich bin neu os nad yw’r biniau allan i’w casglu.

Mae’n gontract blynyddol treigl. Mae’n rhaid i chi roi 90 diwrnod o rybudd i ni os ydych chi am ddod â’r contract i ben.

Os hoffech wneud newidiadau i’ch contract, cysylltwch â ni i drafod y rhain. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi weinyddol.

Ar ôl i’ch contract gael ei ddiweddaru, bydd Nodyn Trosglwyddo Gwastraff newydd yn cael ei gynhyrchu. Nid oes tâl am nodyn newydd, ond bydd rhaid i chi fewngofnodi i’r porthol i’w lofnodi.

Mae gohirio dros dro wedi’u bwriadu ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt yn gallu defnyddio’r gwasanaeth oherwydd cau busnes estynedig neu doriad gweithredol sylweddol.

Ar gyfer ceisiadau am ohirio:

  • Mae’n ofynnol cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd.
  • Rhaid fel arfer fod am o leiaf 4 wythnos yn olynol.
  • Mae gohiriadau wedi’u cyfyngu i 2 achlysur fesul blwyddyn contract, oni bai bod y Cyngor yn cymeradwyo fel arall.
  • Ni fyddant fel arfer yn cael eu cymeradwyo dim ond oherwydd bod disgwyl llai o wastraff.
  • Maent yn parhau i fod yn ddarostyngedig i unrhyw ffioedd llogi cynhwysydd perthnasol.

Yn ystod cyfnod gohirio, ni fydd taliadau casglu yn berthnasol gan na fydd casgliadau’n cael eu darparu. Fodd bynnag, bydd taliadau llogi cynhwysydd ac unrhyw daliadau Dyletswydd Gofal blynyddol sy’n dod yn ddyledus yn ystod y cyfnod gohirio yn dal i fod yn daladwy.

Os yw’ch busnes yn symud, gallwn ddod â’ch contract i ben yn eich hen gyfeiriad a’i ailddechrau yn eich cyfeiriad newydd. Cysylltwch â ni i drefnu hyn.

Os ydych yn ystyried gadael Gwastraff Masnach Caerdydd, rhowch eich rhesymau i ni. Byddwn yn ymateb i’r holl adborth, ac rydym yn hyderus y gallwn ddatrys unrhyw broblemau y gallech fod yn eu hwynebu.

Os byddwch yn dewis gadael, byddwn yn drist i’ch gweld yn mynd, ond gallwn eich helpu i ddod â’ch contract i ben. Bydd angen i chi roi 90 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i ni drwy e-bostio GwastraffMasnach@caerdydd.gov.uk.

Bydd eich taliadau yn dal i fod yn berthnasol yn ystod y cyfnod rhybudd, hyd yn oed os byddwch yn gadael eich busnes ac nad oes unrhyw gasgliadau gennych.

Os caiff eich tâl Dyletswydd Gofal blynyddol ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod rhybudd, bydd hwn o hyd yn berthnasol.

Os na fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn gadael, bydd y taliadau o hyd yn berthnasol, hyd yn oed os nad oedd eich busnes yn weithredol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt ar y porthol. Mewngofnodwch i’r porthol.

Os oes angen i berson newydd ddod yn gyswllt ar eich cyfrif, bydd angen iddynt gofrestru ar y porthol.

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd