Call 029 2087 xxxx

Canolfan Ailgylchu Masnachol

Diweddariad Covid-19: Mae’r Ganolfan Ailgylchu yng Nghlos Bessemer ar gau i fusnesau ar hyn o bryd tra ein bod yn adolygu ein gweithrediadau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion ymbellhau cymdeithasol.

Ar gyfer y sefyllfaoedd hynny pan fyddwch wedi cynhyrchu mwy o wastraff nag arfer, gallwch ddewis cael gwared â’ch gwastraff yn ein Canolfan Ailgylchu Masnachol yn Bessemer Close.

 

Pwy gaiff ddefnyddio’r safle?

Unrhyw fusnes! Caiff unrhyw un ddefnyddio’r safleoedd hyn, ond yn ôl ein profiad ni mae’n fwy addas i fusnesau mentrau bach a chanolig, landlordiaid a’r diwydiant adeiladu.

Yn gyfreithiol, cyn y gallwch gludo unrhyw wastraff mewn cerbyd (p’un ai i un o’n canolfannau neu unrhyw fan arall), mae’n rhaid i chi sicrhau fod eich busnes yn ddeiliad Trwydded Cludo Gwastraff. Gellir trefnu hyn drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn aml, os ydych yn cludo gwastraff eich busnes eich hun yn unig, does dim rhaid talu am y drwydded hon a fydd yn para am gyfnod di-ben-draw. Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i chwilio am ragor o wybodaeth.

 

Beth alla i gludo i’r safle?

Mae croeso i chi gael gwared â’r eitemau canlynol yn y ganolfan, mae’r prisiau yn dibynnu ar natur y gwastraff.

Deunydd

Gwastraff Cyffredinol

Gwastraff Gwyrdd/Gardd

Rwbel Caled

Olew Mwyn

Coed

Bwrdd Plaster

Cardfwrdd

Metel Sgrap

Oergelloedd – Masnachol

Oergelloedd – Preswyl

Teiars

Sut mae’n gweithio?

Safle Talu-Wrth-Ddefnyddio yw’r safle hon, ac mae’n defnyddio peiriant cerdyn. Mae’r drefn yn syml:

  1. Cyrhaeddwch y safle, ewch i bwyso eich cerbyd ar y Bont Bwyso gan ddatgan ba fath o wastraff rydych yn ei gludo.
  2. Ewch i’r man dadlwytho perthnasol, yn unol â chyfarwyddiadau’r staff, a dadlwythwch eich gwastraff. (Dylech ddisgwyl y bydd rhywun yn dod i archwilio eich llwyth, dim ond er mwyn sicrhau eich bod wedi datgan eich gwastraff yn gywir).
  3. Ewch ymlaen i bwyso eich cerbyd eto a chwblhau’r gwaith papur.
  4. Talwch am eich gwastraff gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.
  5. Bant â chi!

 

Ble mae’r safle?

Canolfan Ailgylchu Masnachol

Bessemer Close

Caerdydd

CF11 8BN

 

Oriau Agor:

Llun-Gwe = 07:00 tan 12:30, 13:00 tan 15:00

Dydd Sadwrn = 07:00 tan 12:00

Dydd Sul (a gwyliau banc) = AR GAU

© Cardiff Council Commercial Waste Services - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd