Bydd casglu eich ailgylchu ar wahân yn arbed arian, felly rydym yn argymell y gwasanaeth hwn i’r holl gwsmeriaid. Gallwn gasglu ailgylchu cymysg sych mewn un cynhwysydd, neu gallwch chi ei wahanu eto gyda biniau ar gyfer gwydr neu gardfwrdd.
Ailgylchu cymysg sych
Bagiau clir

Anogir busnesau sydd heb gyfleusterau storio gwastraff addas i ddefnyddio ein gwasanaeth casglu bagiau. Rydym yn cynnig bagiau ailgylchu clir i gwsmeriaid ar gyfer ailgylchu cymysg a gyflwynir ar ymyl y ffordd i’w gasglu ar eich diwrnod casglu penodol.
Eich dewis chi yw sawl bag a ddefnyddiwch, a thalwch am y bagiau a rowch allan i’w casglu yn unig.
Wheeled Bins
For businesses with suitable storage space we can offer a range of bin sizes to suit your level of waste production. All bins have the option to come with lockable lids and we will also provide a quota of blue recycling bags free of charge.

Bin 240L
Addas ar gyfer 3-4 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1100mm (U) x 580mm (Ll) x 720mm (D)

Bin 360L
Addas ar gyfer 4-5 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1100mm (U) x 620mm (Ll) x 850mm (D)

Bin 660L
Cynhwysydd haearn, addas ar gyfer 8-10 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1310mm (U) x 1260mm (Ll) x 730mm (D)

Bin 1100L
Cynhwysydd haearn, addas ar gyfer 15-18 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1370mm (U) x 1260mm (Ll) x 990mm (D)
Gallwn ymateb i’ch anghenion drwy wagio’r biniau ar adegau sy’n gyfleus i chi. Byddwn yn codi tâl am bob tro y caiff y bin ei godi (neu ei wagio), ac rydym yn cynnig gwasanaeth hyblyg a gallwch wneud cais am gasgliadau ychwanegol yn rhwydd.
Gallwch logi neu brynu’r cynwysyddion hyn yn rhan o’r gwasanaeth.
Cardfwrdd
Gallwn gasglu cardfwrdd o ymyl y ffordd, os prynwch ein labeli cardfwrdd oren
Rhowch un label ar un tomen o gardfwrdd (hyd at faint bag gwastraff) ac fe’u casglwn ar eich diwrnod casglu penodol. Yn yr un modd â’r bagiau, dim ond am nifer y labeli a ddefnyddiwch a dalwch.
Fel arall, os ydych yn prynu llawer o gardfwrdd yn gyson ac mae gennych gyfleusterau storio digonol, gallwn roi bin 1100L i chi.

Bin 1100L
Cynhwysydd dur â phedair olwyn.
Mesuriadau: 1370mm (U) x 1260mm (Ll) x 990mm (D)
Gwydr
Ar gyfer llawer o wydr, gallwn roi bin 240L i chi. Sylwch oherwydd cyfyngiadau pwysau dim ond at ei hanner y gallwch lenwi’r bin hwn.

Bin 240L
Cynhwysydd â dwy olwyn.
Mesuriadau: 1100mm (U) x 580mm (Ll) x 720mm (D)
Dysgwch beth allwch chi ei ailgylchu gyda’n posteri defnyddiol
Angen cynhwysydd mwy?
Gallwn hefyd gynnig sgipiau i waredu gwastraff cyffredinol, ar gyfer gwaith clirio un tro neu ar gyfer casgliadau rheolaidd.