Call 029 2087 xxxx

Newidiadau i ailgylchu yn y gweithle

Mae rheolau ailgylchu yn y gweithle yn newid. O 6 Ebrill 2024, bydd yn gyfraith i ailgylchu gael ei wahanu, yn barod i’w gasglu gan eich darparwr casglu gwastraff.

Mae gwastraff Masnach Caerdydd eisoes wedi gweithio gyda 80% o’n cwsmeriaid, i’w trawsnewid yn wasanaethau sy’n cydymffurfio.

Rydyn ni wedi dysgu’r holl wersi ac rydyn ni’n barod i’ch cefnogi chi i wneud y newidiadau hyn.  Rydym yn gwybod y bydd y newidiadau hyn yn her i rai busnesau, ac mae ein tîm ymroddedig yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.

Bydd angen i bob cwsmer sicrhau bod y deunyddiau canlynol yn cael eu rhoi allan i’w casglu ar wahân ar y diwrnod casglu, gan ddefnyddio cynwysyddion unigol ar gyfer pob deunydd.

  • Bwyd
  • Papur a cherdyn (gellir cymysgu’r rhain gyda’i gilydd)
  • Gwydr
  • Metel, plastig a chartonau (gellir cymysgu’r rhain gyda’i gilydd)

Fel gwasanaeth casglu, mae angen i ni gasglu’r deunyddiau hyn ar wahân a’u cadw ar wahân. Gydag ystod amrywiol o gerbydau casglu, ac opsiynau cynwysyddion, mae Gwastraff Masnach Caerdydd yma i’ch helpu i weithredu a rheoli’r newidiadau hyn a gall weithio gyda chi i greu atebion wedi’u teilwra i’ch anghenion busnes.

Gallwn ddadansoddi eich gwastraff i’ch hysbysu yn union pa wasanaethau gwaredu sydd eu hangen arnoch, a pha mor aml y mae angen y casgliadau arnoch. Mae ein tîm wrth law i gynhyrchu adroddiad argymhellion gwastraff busnes pwrpasol a chymorth parhaus i’ch helpu i ddod yn hyderus wrth wahanu’ch gwastraff.

Cysylltu â ni

E-bost gwastraffmasnach@caerdydd.gov.uk neu cysylltwch â ni ar (029) 2071 7501.

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am reoliadau ailgylchu yn y gweithle gan Lywodraeth Cymru yma.

 

© Cardiff Council Commercial Waste Services - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd