Call 029 2087 xxxx

Gwastraff cyffredinol – Cyfleuster Adfer Ynni

Wyddech chi nad yw Cyngor Caerdydd yn anfon gwastraff i dirlenwi yng Nghaerdydd mwyach?

Nid oes gennym unrhyw safleoedd tirlenwi gweithredol yng Nghaerdydd, ac yn lle hynny, rydym yn defnyddio’r Cyfleuster Adfer Ynni (CAY) yn y Sblot. Cyflwynodd y Cyngor y cyfleuster hwn ar y cyd â chwmni o’r enw Viridor, a phedwar cyngor lleol arall yn rhan o’r bartneriaeth Prosiect Gwyrdd.

Mae ein CAY yn trin hyd at 350,000 tunnell o wastraff na ellir ei ailgylchu y flwyddyn. Mae’r gwastraff hwn yn cael ei losgi ac yn creu digon o ynni i bweru tua 50,000 o gartrefi.

Yn ystod y broses hon, mae’r holl fygdarthau a mwg yn cael eu glanhau, felly nid oes unrhyw nwyon niweidiol yn cael eu rhyddhau yn ôl i’r atmosffer. Mae’r CAY yn gwbl gynaliadwy ac yn cynhyrchu dim gwastraff, gydag unrhyw ludw dros ben yn cael ei ddefnyddio i wneud arwynebau ffyrdd.

Sut mae’r CAY yn gweithio

EFW Process

· Gellir didoli gwastraff ymlaen llaw i gasglu unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy sydd ar ôl.

· Mae gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei fwydo i’r llosgydd.

· Mae’n llosgi ar dymheredd dros 850°C.

· Mae gwres yn mynd i mewn i foeler i gynhyrchu stêm.

· Mae stêm yn pweru tyrbin sy’n cynhyrchu trydan ar gyfer cartrefi a busnesau.

· Gellir pibellu gwres sydd dros ben i adeiladau cyfagos ar gyfer gwresogi.

· Mae nwyon niweidiol yn cael eu tynnu allan ac mae’r gronynnau yn cael eu hidlo.

· Mae deunydd a gesglir gan y system glanhau aer yn cael ei anfon i’w drin.

· Mae’r holl allyriadau yn cael eu monitro i fodloni safonau amgylcheddol llym.

· Mae lludw yn cael ei gasglu ar waelod y llosgydd.

· Mae magnetau yn tynnu unrhyw fetelau sy’n weddill y gellir eu hailgylchu.

· Gellir defnyddio lludw sy’n weddill mewn prosiectau adeiladu, fel gwneud ffyrdd newydd.

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd