Call 029 2087 xxxx

Amdanom ni

Yng Nghyngor Caerdydd, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau ledled y ddinas i ddarparu
gwasanaeth casglu cost-effeithiol, cydymffurfiol a dibynadwy sy’n addas i chi. Gan weithio yn y ddinas am
dros 40 mlynedd, mae gennym dîm ymroddedig o arbenigwyr sy’n fedrus iawn ym mhob agwedd ar reoli
gwastraff.

Gan gydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn sicrhau bod deunyddiau a gasglwn
gan ein cwsmeriaid yn cael eu troi’n adnodd trwy gyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n lleol i Dde Cymru.
Mae ein holl weithfeydd prosesu o fewn cwmpas 1.5 milltir yng Nghaerdydd, gan leihau ôl troed carbon
taith eich gwastraff, wrth gyfrannu at yr economi werdd leol.

Mae ein swyddogion wrth law i roi cymorth a chynghori sut olwg fydd ar eich contract, ond efallai
y bydd yr wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol i chi hefyd:

Wales Millennium Centre

“Rydym yn dewis Gwasanaethau Gwastraff Caerdydd gan eu bod nhw’n fusnes yn seiliedig yng Nghaerdydd sy’n cefnogi cymunedau lleol. Mae gweithio gyda nhw wedi ein helpu i ddatblygu ein prosesau rheoli gwastraff amgylcheddol, gan sicrhau ein bod ni’n rheoli’r broses yn effeithlon ac effeithiol. Mae eu gwasanaeth cwsmeriaid wedi bod yn ardderchog, yn ein galluogi i ddatblygu’r maes busnes hwn a’n helpu i gyrraedd ein targed o ddod yn arweinydd rhyngwladol yn y diwydiant celfyddydol.”
Canolfan Mileniwm Cymru

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd