Os ydych chi’n un o’n cwsmeriaid, gallwch ddefnyddio’r porthol i:
· ddefnyddio, adolygu a llofnodi eich nodyn trosglwyddo gwastraff a thelerau ac amodau eich contract,
· gweld a diweddaru eich manylion cyswllt, ac
· ychwanegu cysylltiadau newydd. Bydd angen i bob cyswllt gofrestru ar y porthol.
Bydd angen i chi greu cyfrif i lofnodi eich dogfen dyletswydd gofal. Bydd angen cyfrif arnoch hefyd i ofyn am wasanaethau ychwanegol, fel dosbarthu bagiau.
Dylech fod wedi derbyn llythyr gennym gyda chod QR a chyfarwyddiadau ar greu cyfrif.
Bydd angen eich enw busnes a’ch prawf adnabod busnes. Byddwn yn darparu eich prawf adnabod busnes.
Pan fyddwch wedi cofrestru, byddwch yn cael e-bost gyda dolen ddilysu. Dilynwch y ddolen i fewngofnodi a gorffen creu eich cyfrif. Os nad ydych wedi derbyn llythyr, cysylltwch â ni.
Wrth greu eich cyfrif, bydd angen cyfrinair arnoch. Mae’n rhaid i’ch cyfrinair gynnwys:
– 8 nod
– Un llythyren fawr
– Un llythyren fach
– Rhif
– Symbol
Gwyliwch ein fideo isod sy’n dangos sut i fewngofnodi:
Mi fydd gan bob person rydych chi’n ei ychwanegu i’r porth cwsmeriaid fynediad llawn i’r holl nodweddion sydd ar gael. Dylech ystyried pwy yn eich busnes ddylai gael y mynediad hwn.
Os oes gan eich busnes sawl safle sy’n cael eu gwasanaethu gan Wastraff Masnach Caerdydd, bydd gan bob cyswllt rydych chi’n ei ychwanegu at y porth fynediad llawn i’r holl nodweddion ar gyfer pob safle.
Gallwch archebu bagiau ailgylchu, gwastraff bwyd, a chardfwrdd drwy’r porth cwsmeriaid, o dan yr adran ‘safleoedd’.
Gallwch ond archebu bagiau os oes gennych wasanaeth casglu gwastraff -bagiau.
Gwyliwch ein fideo ar sut i archebu bagiau, isod: