Call 029 2087 xxxx

Telerau ac Amodau

Fydd ar waith o 30 Medi.

Mae Gwastraff Masnach Caerdydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau casglu gwastraff i fodloni anghenion eich busnes. Bydd yr holl wasanaethau rheoli gwastraff a ddarperir o dan eich contract yn cael eu manylu yn y Nodyn Trosglwyddo Gwastraff, sy’n nodi eich gwasanaethau a’ch rhwymedigaethau penodol.

Yn y telerau ac amodau hyn, mae ‘rydym’, ‘ni’, ac ‘ein’ yn cyfeirio at Wastraff Masnach Cyngor Caerdydd ac mae ‘rydych’ a ‘chi’ yn cyfeirio at yr un sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Yr Amodau yn hwn yw amodau Cyngor Sir Caerdydd (y Cyngor) o ran gwasanaethau casglu gwastraff Gwastraff Masnach Caerdydd (Gwasanaethau) ac unrhyw wasanaethau a ddarperir ar yr amodau canlynol ac eithrio’r rhai a amrywir gan delerau unrhyw gontract a ysgrifennir rhwng y Cyngor a’r Cwsmer.

Yn unol â thelerau pob contract y Cyngor, mae’n rhaid i’r Cwsmer gydymffurfio â holl ofynion y llywodraeth neu unrhyw statud neu unrhyw awdurdod cyhoeddus mewn perthynas â’r gwasanaeth, neu â defnydd y Cwsmer o unrhyw gynhwysydd. Yn benodol, bydd y Cwsmer yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, neu unrhyw ailddeddfu neu ddiwygio iddi, neu unrhyw orchymyn, rheoliad, neu ddeddfwriaeth ddirprwyedig a wneir oddi tani. Yn ogystal, bydd y cwsmer a’r Cyngor ill dau yn cyflawni eu dyletswydd gofal, fel yr amlinellir yng Nghyfraith Ailgylchu yn y Gweithle Cymru.

3.1 Os bydd y Gwastraff pan gaiff ei gasglu (ym marn y Cyngor) yn cynnwys deunydd gwahanol i’r math a nodir yn y Cytundeb, gall y Cyngor yn ôl ei ddisgresiwn llwyr:

3.1.1 wrthod derbyn neu gasglu unrhyw ran o’r Gwastraff yr effeithir arno.

3.1.2 gwneud y cyfryw gynnydd yn y Taliadau ag y mae’n ei ystyried yn briodol.

3.1.3 ei gwneud yn ofynnol i’r Cwsmer dalu unrhyw daliadau ychwanegol am Wastraff yr effeithir arno neu Wastraff ychwanegol.

3.2 Bydd y deunydd gwastraff sydd i’w gasglu a’i waredu o’r math, y cymeriad a’r meintiau a nodir yn y Nodyn Trosglwyddo Gwastraff dyletswydd gofal (NTG o hyn ymlaen), a bydd y Cwsmer yn sicrhau na fydd unrhyw newid sylweddol yn natur y gwastraff yn digwydd yn ystod y contract heb hysbysu ymlaen llaw am newidiadau i’r cytundeb.

3.3 Ni fydd y Cyngor yn derbyn unrhyw wastraff y mae’n anodd ei gasglu neu ei waredu oherwydd ei faint neu ei bwysau.

3.3.2 Mae’r Cwsmer yn cytuno, os yw’r casgliad gwastraff yn cynyddu mewn pwysau, yna mae gan y Cyngor ddisgresiwn llwyr i gasglu’r gwastraff mewn sawl casgliad ac os yw’n dro ar ôl tro dros bwysau yna bydd y Cwsmer a’r Cyngor yn cytuno i ddiwygio telerau’r Contract i adlewyrchu’r pwysau cynyddol a bydd y telerau talu/y ffioedd hefyd yn cael eu diwygio i adlewyrchu’r cynnydd hwn mewn pwysau a chasgliad.

 

3.4 Ni fydd y Cyngor yn derbyn unrhyw wastraff neu hylif gwenwynig, peryglus neu arbennig o unrhyw fath o gwbl.

3.5 Os bydd unrhyw fin a gesglir o bwysau gormodol, fel y pennir gan y Cyngor, bydd taliadau’n cael eu codi ar anfoneb y Cwsmer.

3.6 Ni ddylid rhoi gwastraff bwyd nac ailgylchu mewn biniau gwastraff gweddilliol, yn unol â rhwymedigaethau statudol yn unol â’r gyfraith ailgylchu yn y gweithle.

3.7 Darperir biniau i gwsmeriaid fel arfer safonol, os yw lle yn caniatáu. Mewn sefyllfaoedd lle nad oes gan y Cwsmer le storio addas a digonol, gellir cynnig dewisiadau amgen. Dyletswydd gofal y cwsmer yw sicrhau lle storio digonol oddi ar y briffordd lle darperir biniau, a chydymffurfio ag unrhyw hysbysiad gorfodi mewn perthynas â chyfyngiadau amser.

4.1 Mae’n rhaid i’r Cwsmer roi gwybod i’r Cyngor cyn darparu am unrhyw ofyniad penodol sydd gan y Cwsmer o ran iechyd a diogelwch yn y gwaith ac am unrhyw beryglon neu risgiau a allai godi o ganlyniad i’r Cyngor neu ei gyflogeion yn darparu unrhyw wasanaeth ar safle’r Cwsmer. Mae’n rhaid i’r cwsmer hysbysu’r Cyngor os gwneir unrhyw newidiadau sylweddol i’r pwynt casglu biniau, er mwyn galluogi asesiad risg diwygiedig.

4.2 Ni fydd angen i gyflogeion nac asiantau’r Cyngor ddarparu unrhyw wasanaeth nad yw yn nhelerau’r contract, ac ar ben hynny, ni chaiff y Cwsmer ofyn i gyflogeion nac asiantau o’r fath wneud hynny oni cheir cytundeb blaenorol gan y Cyngor.

4.3 Mae’n rhaid i’r Cwsmer roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i’r Cyngor os caiff busnes y Cwsmer ei werthu neu ei drosglwyddo. Bydd y Cwsmer yn atebol am yr holl gostau ac anfonebau sydd heb eu talu.

4.4 Mae’n rhaid i’r Cwsmer sicrhau bod yr holl wastraff a gesglir yn bodloni’r safonau iechyd a diogelwch fel y cytunwyd gyda’r Cyngor. Os nad yw unrhyw gasgliad yn bodloni’r safon hon, mae gan y Cyngor ddisgresiwn llwyr i wrthod casglu’r gwastraff, ac ni fydd unrhyw atebolrwydd o gwbl yn cael ei roi ar y Cyngor a thelir ffioedd/taliadau i’r Cyngor.

5.1 Nid yw’r Cyngor yn gludwr cyffredin ac nid yw’n contractio felly.

5.2 Ni fydd dyddiad darparu’r gwasanaeth yn hanfodol, a bydd gan y Cyngor hawl yn ôl ei ddisgresiwn i newid dyddiad darparu’r gwasanaeth.

5.3 Os nad oes modd i’r Cyngor ddarparu unrhyw wasanaeth ar y diwrnod a roddwyd i’r Cwsmer, oherwydd gwyliau’r banc neu wyliau cyhoeddus, neu amgylchiadau sydd y tu allan i’w reolaeth resymol, bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech resymol i ddarparu gwasanaeth o’r fath cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol wedyn. Bydd diwrnodau casglu wedi’u haildrefnu yn weladwy i gwsmeriaid ar y porth cwsmeriaid.

6.1 Bydd y Cyngor yn adolygu’r prisiau a godir yn rheolaidd i gyd-fynd ag unrhyw gynnydd yn y farchnad. Bydd y Cwsmer yn cael ei hysbysu am unrhyw newidiadau, trwy’r porth cwsmeriaid gydag o leiaf 28 diwrnod o rybudd cyn i newidiadau gael eu rhoi ar waith.

6.2 Bydd y Cyngor yn codi tâl blynyddol am ddyletswydd gofal cwsmeriaid, sy’n cynnwys cynhyrchu Nodyn Trosglwyddo Gwastraff cyfreithiol. Bydd tâl dyletswydd gofal yn cael ei gymhwyso 12 mis ar ôl i’ch contract ddechrau ac nid yw’n ad-daladwy mewn unrhyw achos ac eithrio lle mae rhybudd wedi’i roi 90 diwrnod cyn cynhyrchu’r tâl dyletswydd gofal blynyddol.

6.3 Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i godi tâl gweinyddol am symud neu ddychwelyd biniau, a ffioedd am waredu gwastraff sy’n weddill mewn biniau ar ddiwedd y contract.

6.4 Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i godi tâl gweinyddol am newidiadau i’r contract y gofynnir amdanynt gan y cwsmer. Mae’r prisiau cyfredol ar gael yn y Porth Cwsmeriaid.

7.1 Os oes angen gwasanaeth sy’n cynnwys symud cerbyd unrhyw le nad yw ar y briffordd gyhoeddus ar y Cwsmer, bydd y Cwsmer yn rhoi mynediad a lle digonol, diogel a rhesymol y gellir llwytho a dadlwytho, danfon a chasglu ynddo heb fod perygl o ddifrodi’r cerbyd, y gyrrwr na’r llwyth a heb fod rhwystr i’r briffordd gyhoeddus.

7.2 Ystyrir bod gyrrwr cerbyd sy’n darparu gwasanaeth o’r fath dan reolaeth y Cwsmer, a’r Cwsmer yn unig fydd yn gyfrifol am unrhyw ddamwain neu ddifrod a achosir oherwydd pwysau’r cerbyd neu ei lwyth neu unrhyw geblau, draeniau, a thyllau archwilio, ffyrdd, llwybrau gwasanaeth, neu unrhyw eiddo arall ar, uwchben neu o dan arwyneb y ddaear a bydd yn indemnio’r Cyngor yn erbyn unrhyw hawliadau mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd cyfreithiol o’r herwydd.

7.3 Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod cyflawni unrhyw wasanaeth os yw o’r farn y gallai’r gwasanaeth sy’n ofynnol roi unrhyw berson, nwydd, cerbyd neu eiddo mewn perygl.

7.4 Mae’r Cwsmer yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir tra bod y cynhwysydd yn cael ei logi. Bydd y Cwsmer yn gyfrifol am ddarparu a chynnal yswiriant i foddhad rhesymol y Cyngor mewn perthynas â’r holl gynwysyddion a gyflenwir iddo gan y Cyngor. Bydd taliadau yn berthnasol am amnewid biniau sydd wedi’u difrodi, y tu allan i ôl traul rhesymol, a chynwysyddion wedi’u colli neu wedi’u dwyn.

8.1 Ac eithrio diffygion yn y gwasanaeth y rhydd y Cwsmer wybod amdanynt i’r Cyngor yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod wedi dyddiad y gwasanaeth, ni fydd y Cyngor yn atebol am unrhyw ddiffyg yn y gwasanaeth boed hynny oherwydd unrhyw weithred, esgeulustod, methiant ar ran y Cyngor neu unrhyw un o’i weision neu ei asiantau neu fel arall, a eithrir unrhyw warant ac amod datganiedig neu ymhlyg trwy hyn.

8.2 Yn benodol (heb niweidio cyffredinolrwydd yr uchod), ni fydd y Cyngor yn atebol am unrhyw hawl, colled neu ddifrod sy’n deillio o’r canlynol:

8.2.5 Unrhyw amgylchiadau sy’n codi y tu allan i reolaeth resymol y Cyngor.

8.2.6 Unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan neu unrhyw weithred neu ddiffyg gweithredu gan y Cyngor neu ei weision neu ei asiantau.

8.2.7 Unrhyw ddiffyg cynhenid neu gudd na allai’r Cyngor ei ddarganfod na’i gywiro’n rhesymol.

8.2.8 Unrhyw doriad sylweddol gan y Cwsmer o unrhyw un o amodau’r Cyngor y mae angen iddo gydymffurfio â nhw neu weithredu arnynt.

8.3 Bydd y Cwsmer yn rhoi pob cyfle rhesymol i’r Cyngor i amnewid, trwsio neu unioni unrhyw ddiffyg yn y gwasanaeth.

8.4 Ni fydd y Cyngor yn atebol dan unrhyw amgylchiadau am golli elw neu gontractau, neu am golled ganlyniadol o unrhyw fath.

8.5 Os oes diffyg yn y gwasanaeth, a lle cytunir bod y Cyngor yn atebol am hynny, rhoddir credyd priodol ar anfoneb arferol nesaf y Cwsmer.

8.6 Bydd y Cyngor dim ond yn atebol am ddychwelyd ac ad-dalu stoc a ddanfonwyd i unrhyw gwsmer yn y 90 diwrnod diwethaf. Bydd angen tystiolaeth lawn o brynu cyn ystyried unrhyw ad-daliadau.

8.7 Ni fwriedir i unrhyw beth yn hwn effeithio ar ac ni fydd yn effeithio ar hawliau’r Cwsmer o dan Ddeddf Telerau Contract Annheg 1977.

9.1 Bydd y Cwsmer yn indemnio’r Cyngor rhag unrhyw golled neu unrhyw ddifrod i unrhyw gynhwysydd sy’n digwydd neu a achosir yn ystod parhad y Contract gyda’r Cwsmer oni bai ei fod wedi’i achosi’n uniongyrchol ac yn unig gan esgeulustod y Cyngor.

9.2 Bydd y Cwsmer yn indemnio’r Cyngor rhag unrhyw hawliadau y mae’r Cwsmer yn atebol amdanynt yn gyfreithiol neu am unrhyw gost ychwanegol sy’n codi o ddefnyddio unrhyw gynhwysydd neu doriad gan y Cwsmer o unrhyw amod yn hwn y mae angen i’r Cwsmer gydymffurfio â hi neu weithredu yn ei sgil.

Ystyrir bod pob amod yn archeb Cwsmer sy’n gwrthdaro ag unrhyw un o’r amodau hyn yn amherthnasol i unrhyw archeb a wneir gyda’r Cyngor oni chytuna’r Cyngor drwy fynegi hynny yn ysgrifenedig wrth gydnabod yr archeb.

Ni chaiff y Cwsmer aseinio na throsglwyddo buddiannau’r contract hwn.

12.1 Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i atal y gwasanaeth i’r Cwsmer os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

12.1.6 Ni chydymffurfir ag unrhyw ofynion cyfreithiol, yn arbennig adran 34 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Chyfraith Ailgylchu yn y Gweithle Cymru.

12.1.7 Mae arian yn ddyledus i’r Cyngor wedi 28 diwrnod ar ôl y dyddiad talu.

12.1.8 Ni chydymffurfir â thelerau ac amodau’r contract, ac nid yw’r Cwsmer yn llofnodi ei NTG yn ddigidol o fewn y paramedrau y cytunwyd arnynt.

12.1.9 Mae ymddygiad ymosodol neu afresymol tuag at gyflogai’r Cyngor.

12.1.10 Ceir hysbysiad bod debyd uniongyrchol wedi ei ganslo

12.2 Os bydd y Cyngor yn atal y gwasanaeth i’r Cwsmer, bydd y Cyngor yn parhau i godi ar y Cwsmer y gyfradd arferol ar gyfer y gwasanaeth casglu ac mae’n cadw’r hawl i godi tâl rhesymol am symud ac amnewid cynwysyddion.

12.3 Bydd unrhyw ffioedd neu daliad sy’n ddyledus i’r Cyngor yn atal y gwasanaeth a bydd y Cwsmer yn cael ei ganlyn am y taliad, a bydd arno daliadau rhesymol i’r Cyngor; ac os yw’r Cwsmer yn mynd i ddwylo’r weinyddiaeth neu ansolfedd, neu’n ymddiddymu (boed yn orfodol neu’n wirfoddol) neu’n gwneud trefniant er budd credydwyr, neu’n rhoi’r gorau i neu’n bygwth rhoi’r gorau i gynnal busnes, mae gan y Cyngor yr hawl i atal gwasanaeth.

13.1 Bydd y Contract yn dechrau ar ddyddiad cyntaf Cyfnod y Contract a bydd yn parhau hyd nes y bydd y naill barti neu’r llall yn ei derfynu yn unol â’r Amodau hyn.

13.2 Bydd y contract yn cael ei adnewyddu’n awtomatig am 12 mis ar ddyddiad y pen-blwydd yn absenoldeb unrhyw rybudd.

13.3 Caiff y Cwsmer ganslo’r gwasanaeth(au) drwy roi 90 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i’r Cyngor. Bydd y Cwsmer yn atebol am dalu am y gwasanaeth tan ddiwedd y 90 diwrnod.

13.3 Caiff y Cyngor ganslo’r gwasanaeth(au) ar unrhyw adeg drwy roi 14 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i’r Cwsmer.

14.1 Bydd y Cyngor yn cyflwyno anfoneb i gwsmeriaid sydd un mis mewn ôl-ddyledion.

14.2 Mae’n rhaid i’r holl daliadau am wasanaethau a ddarperir o dan y contract hwn gael eu gwneud trwy ddebyd uniongyrchol. Mae’r Cwsmer yn cytuno i sefydlu a chynnal mandad debyd uniongyrchol dilys am gyfnod y contract. Gall methu â gwneud hynny arwain at atal gwasanaethau nes bod mandad debyd uniongyrchol dilys yn cael ei sefydlu.

14.3 Fel y nodir yn Adran 3, bydd y Cwsmer yn atebol am unrhyw daliadau sy’n ymwneud â:

14.3.1 Phwysau Gormodol

14.3.2 Gwaredu gwastraff ychwanegol neu wastraff halogedig

14.4 Bydd y Cwsmer yn talu’r holl anfonebau a gyflwynir iddo gan y Cyngor erbyn eu dyddiad talu gofynnol priodol fel y nodir yn benodol ym mhob anfoneb a godir.

14.4.1 Os yw’r Cwsmer yn methu â gwneud unrhyw daliad ar y dyddiad talu gofynnol, bydd gan y Cyngor, heb niweidio unrhyw hawliau eraill a nodir yn y Contract hwn a/neu a ymhlygir gan y gyfraith, hawl i atal y Gwasanaethau.

14.4.2 Os nad yw unrhyw anfoneb wedi’i thalu erbyn y dyddiad talu gofynnol, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i ddechrau achos cyfreithiol yn unol â phrosesau ehangach y Cyngor. Gall methu â thalu arwain at daliadau adennill ychwanegol a chamau gweithredu.

14.5 Rhaid codi anghydfodau o fewn 28 diwrnod i’w hymchwilio. Bydd amserlenni statudol yn berthnasol.

14.6 Bydd taliadau Dyletswydd Gofal yn cael eu had-dalu os codir nhw yn ystod y cyfnod rhybudd o 90 diwrnod.

14.6 Codir tâl am gasgliad wedi’i drefnu adeg mynychu’r safle gan y criw.

14.7 Bydd taliadau’n dal i fod yn berthnasol yn yr achosion canlynol:

14.7.1 Nid yw gwastraff wedi’i gyflwyno

14.7.2 Mae’r Cynhwysydd/Cynwysyddion yn wag

14.7.3 Mae’r Cynhwysydd wedi’i orlwytho

17.7.3 Nid yw’r Criw yn gallu cael mynediad.

14.8 Bydd taliadau’n parhau’n berthnasol os nad yw’r gwasanaeth yn cael ei derfynu’n ysgrifenedig.

14.9 Os yw cwmni cyfyngedig neu unigolyn wedi gwneud cais i Dŷ’r Cwmnïau i ddiddymu ei fusnes, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthwynebu’r dileu, gan ei alluogi i barhau â’r achos adennill dyledion. 14.9.1 Mae rhestr lawn o’r amodau sy’n ofynnol i ganlyn yr uchod i’w gweld yn adran 1004 ac yn adran 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

14.10 Bydd yr holl ddyled sy’n ddyledus yn cael ei chanlyn yn unol â’r cyfyngiad chwe blynedd, fel y manylir o dan Adran 9(1) o Ddeddf Cyfyngiadau 1980.

Mae unrhyw amseroedd, dyddiadau a diwrnodau a ddyfynnir i’r Cyngor ddanfon y Cynwysyddion a/neu ymgymryd â’r Gwasanaethau yn fras yn unig ac ni fydd yr amser yn hanfodol yn y Contract.

16.1 Ni fydd y Cyngor yn atebol i’r Cwsmer ac ni ystyrir ei fod yn torri’r Contract oherwydd unrhyw berfformiad, oedi a/neu fethiant wrth gyflawni, unrhyw un o rwymedigaethau’r Cyngor yn y gorffennol mewn perthynas â darparu’r Cynwysyddion a/neu’r Gwasanaethau os oedd y perfformiad, yr oedi a/neu’r methiant yn y gorffennol oherwydd unrhyw achos y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Heb niweidio cyffredinolrwydd yr uchod, ystyrir y canlynol hefyd yn achosion y tu hwnt i reolaeth resymol y Cyngor:

16.1.1 Gweithred Dduw, ffrwydrad, llifogydd, tywydd garw, tân neu ddamwain;

16.1.2 Rhyfel neu fygythiad o ryfel, difrod, gwrthryfel, difrod maleisus, aflonyddwch sifil, terfysg neu atafael;

16.1.3 rheoliadau neu embargos mewnforio neu allforio;

16.1.4 streiciau, cloi allan neu weithredu diwydiannol neu anghydfodau masnach eraill (boed yn ymwneud â chyflogeion y Cyngor neu drydydd parti);

16.1.5 anawsterau wrth gael deunyddiau crai, llafur, tanwydd, trafnidiaeth, staff, rhannau neu beiriannau;

15.1.6 methiant pŵer, methiant peiriannau, neu anawsterau gweithredol yn ymwneud â thraffig, peiriannau, isgontractwyr a/neu gyflenwyr.

16.2 Bydd unrhyw gyfathrebiadau, hysbysiadau neu ddogfennaeth gwasanaeth gan y Cyngor yn cael eu hanfon ar ffurf electronig. Pan gyfeirir at ohebiaeth ysgrifenedig gan gwsmeriaid, ystyrir bod ffurf electronig yn dderbyniol.

16.2.1 Y disgwyliad gan y Cyngor yw y bydd y Cwsmer yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod cysylltiadau perthnasol yn cael eu cofrestru ar y Porth Cwsmeriaid a’u diweddaru lle bo angen.

16.2.2 Ar ôl cofrestru ar y Porth Cwsmeriaid, bydd gan bawb sydd wedi’u cofrestru fynediad at wybodaeth, a’r gallu i gymryd camau ar y cyfrif. Felly, ychwanegir cysylltiadau lluosog yn ôl disgresiwn y Cwsmer.

16.3 Nid yw methiant y Cyngor i orfodi neu i arfer ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod o amser, unrhyw deler neu unrhyw hawl yn unol â’r Cytundeb hwn, yn gyfystyr â, ac ni chaiff ei ddehongli fel, hepgoriad o’r cyfryw deler neu hawl ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn effeithio ar hawl y Cyngor i’w orfodi neu ei arfer yn ddiweddarach.

16.4 Gall cwsmeriaid gael cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod gwaith o gychwyn y cytundeb. Yn ystod y cyfnod hwn, gall y cwsmer ganslo’r contract. Pan fo angen nôl cynwysyddion, bydd y cwsmer yn agored i ffi.

16.5 Bydd methiant y Cwsmer i lofnodi ei Nodyn Trosglwyddo Gwastraff Dyletswydd Gofal yn ddigidol ar ddechrau’r contract, wrth adnewyddu’r contract, neu wrth ddiwygio cyswllt ar ôl hynny, yn arwain at atal y gwasanaeth.

Safonau Gwasanaeth

· Dylid llwytho cynwysyddion yn ddiogel ac yn gyfartal, heb ddeunyddiau miniog neu boeth a allai achosi difrod.

· Ni ddylai sachau na chynwysyddion fod yn fwy na phwysau codi diogel. Mae cwsmeriaid yn gyfrifol am ailbecynnu os oes angen.

· Os yw eitemau’n cael eu cyflwyno’n anghywir, neu os ydynt wedi’u halogi, gellir codi tâl ar y cwsmer am gasglu eitemau halogedig, a chasgliad ychwanegol fel gwastraff cyffredinol. Gellir dod o hyd i’r taliadau cyfredol yn eich ardal ar y porth cwsmeriaid.

· Mae angen i gwsmeriaid gydymffurfio â’r holl reoliadau ailgylchu yn y gweithle, ac mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod casglu unrhyw wastraff sydd wedi’i gyflwyno’n anghywir.

· Bydd halogiad yn cael ei fonitro a gallai cwsmeriaid sy’n cael eu canfod yn torri’r telerau dro ar ôl tro gael eu tynnu o’r gwasanaeth.

· Ni ddylid storio cynwysyddion ar y briffordd, y tu allan i’r amseroedd casglu, oni bai y cytunwyd fel arall.

· Ni ddylid llosgi sbwriel mewn cynwysyddion, ac ni ddylid cynnau na chaniatáu tanau.

· Ni ddylid symud cynwysyddion o’r safle heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Cyngor.

· Dylai cwsmeriaid ganiatáu mynediad ar gyfer arolygu, profi, addasu, atgyweirio neu amnewid cynwysyddion.

· Gall cwsmeriaid ddarparu codau mynediad ar gyfer ardaloedd storio sbwriel diogel, a fydd yn cael eu cadw’n ddiogel ar ddyfais mewn cab. Ni fydd allweddi na ffobiau mynediad yn cael eu cario fel arfer safonol. Pan fo’r angen yn codi, nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled/difrod neu fel arall o allweddi a ffobiau mynediad.

· Dylai cynwysyddion fod ar gael yn rhwydd ar adeg y casgliad a bennir i’r cwsmer ar ddechrau’r contract.

· Dylai cwsmeriaid ddarparu mynediad diogel a digonol ar gyfer symud cerbydau a gweithrediadau llwytho/dadlwytho.

· Mae cwsmeriaid yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir tra bod y cynhwysydd yn cael ei logi.

· Disgwylir i gwsmeriaid gofrestru ar y Porth Cwsmeriaid i reoli eu gwasanaethau.

· Bydd e-byst gwasanaeth yn cael eu hanfon at y Prif Gyswllt trwy’r Porth Cwsmeriaid fel rhan o gyfathrebu safonol.

· Rhaid i gwsmeriaid hefyd lofnodi eu Dyletswydd Gofal, sy’n ffurfio’r contract gyda Gwastraff Masnach Cyngor Caerdydd o fewn yr amserlen benodol, o fewn y Porth, i sicrhau bod y gwasanaethau’n parhau.

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd