16.1 Ni fydd y Cyngor yn atebol i’r Cwsmer ac ni ystyrir ei fod yn torri’r Contract oherwydd unrhyw berfformiad, oedi a/neu fethiant wrth gyflawni, unrhyw un o rwymedigaethau’r Cyngor yn y gorffennol mewn perthynas â darparu’r Cynwysyddion a/neu’r Gwasanaethau os oedd y perfformiad, yr oedi a/neu’r methiant yn y gorffennol oherwydd unrhyw achos y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Heb niweidio cyffredinolrwydd yr uchod, ystyrir y canlynol hefyd yn achosion y tu hwnt i reolaeth resymol y Cyngor:
16.1.1 Gweithred Dduw, ffrwydrad, llifogydd, tywydd garw, tân neu ddamwain;
16.1.2 Rhyfel neu fygythiad o ryfel, difrod, gwrthryfel, difrod maleisus, aflonyddwch sifil, terfysg neu atafael;
16.1.3 rheoliadau neu embargos mewnforio neu allforio;
16.1.4 streiciau, cloi allan neu weithredu diwydiannol neu anghydfodau masnach eraill (boed yn ymwneud â chyflogeion y Cyngor neu drydydd parti);
16.1.5 anawsterau wrth gael deunyddiau crai, llafur, tanwydd, trafnidiaeth, staff, rhannau neu beiriannau;
15.1.6 methiant pŵer, methiant peiriannau, neu anawsterau gweithredol yn ymwneud â thraffig, peiriannau, isgontractwyr a/neu gyflenwyr.
16.2 Bydd unrhyw gyfathrebiadau, hysbysiadau neu ddogfennaeth gwasanaeth gan y Cyngor yn cael eu hanfon ar ffurf electronig. Pan gyfeirir at ohebiaeth ysgrifenedig gan gwsmeriaid, ystyrir bod ffurf electronig yn dderbyniol.
16.2.1 Y disgwyliad gan y Cyngor yw y bydd y Cwsmer yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod cysylltiadau perthnasol yn cael eu cofrestru ar y Porth Cwsmeriaid a’u diweddaru lle bo angen.
16.2.2 Ar ôl cofrestru ar y Porth Cwsmeriaid, bydd gan bawb sydd wedi’u cofrestru fynediad at wybodaeth, a’r gallu i gymryd camau ar y cyfrif. Felly, ychwanegir cysylltiadau lluosog yn ôl disgresiwn y Cwsmer.
16.3 Nid yw methiant y Cyngor i orfodi neu i arfer ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod o amser, unrhyw deler neu unrhyw hawl yn unol â’r Cytundeb hwn, yn gyfystyr â, ac ni chaiff ei ddehongli fel, hepgoriad o’r cyfryw deler neu hawl ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn effeithio ar hawl y Cyngor i’w orfodi neu ei arfer yn ddiweddarach.
16.4 Gall cwsmeriaid gael cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod gwaith o gychwyn y cytundeb. Yn ystod y cyfnod hwn, gall y cwsmer ganslo’r contract. Pan fo angen nôl cynwysyddion, bydd y cwsmer yn agored i ffi.
16.5 Bydd methiant y Cwsmer i lofnodi ei Nodyn Trosglwyddo Gwastraff Dyletswydd Gofal yn ddigidol ar ddechrau’r contract, wrth adnewyddu’r contract, neu wrth ddiwygio cyswllt ar ôl hynny, yn arwain at atal y gwasanaeth.