Gallwn gynnig atebion rheoli gwastraff ar gyfer digwyddiadau lleol a mawr yn y ddinas.
Rydym wedi rheoli llawer o ddigwyddiadau poblogaidd, ar raddfa fawr fel:
- Hanner Marathon Caerdydd,
- Digwyddiadau’r Depo yn y Castell,
- Tafwyl, a
- Gŵyl Fwyd Bae Caerdydd.
Mae ein pecynnau pwrpasol yn gallu cynnwys amrywiaeth o wasanaethau, fel:
- pob cynhwysydd gwastraff
- llogi sgipiau
- arwyddion
- rheoli toiledau
- clirio wyneb byrddau
- rheoli gwastraff, a
- chodi sbwriel
Gall ein tîm hefyd:
- Weithio gyda chi cyn eich digwyddiad, i archwilio’r gwastraff sy’n dod i mewn a theilwra eich gwasanaeth i chi
- Darparu cyfarwyddiadau addysgol i staff ar yr hyn sy’n mynd i ble, a
- Cwblhau adroddiad rheoli gwastraff llawn, ar gyfer ystadegau wedi’r digwyddiad
Byddwn hefyd yn darparu gwasanaethau i chi yn ystod gosod a dadosod eich digwyddiad. Cysylltwch â ni os hoffech ddarganfod mwy a chael dyfynbris cystadleuol.