Gall gwastraff fod yn niweidiol i’r amgylchedd os nad yw’n cael ei waredu’n gywir. Pan fyddwn yn casglu eich gwastraff, rydym yn gweithio i’w droi’n adnodd defnyddiol.
Rydym yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ac yn defnyddio cyfleusterau datblygedig i droi’r deunyddiau rydyn ni’n eu casglu yn adnodd defnyddiol.
Mae ein holl weithfeydd prosesu o fewn 1.5 milltir i’w gilydd yng Nghaerdydd, gan leihau ôl troed carbon taith eich gwastraff, wrth gyfrannu at yr economi werdd leol.
- Darganfyddwch fwy am ganllawiau Ailgylchu i Fusnesau.
- Darganfyddwch fwy am Ddeddfwriaeth Ailgylchu yn y Gweithle Llywodraeth Cymru