Call 029 2087 xxxx

Gofynion cyfreithiol

Prif ddeddfwriaeth y DU sy’n ymwneud â gwastraff yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae hon yn ddeddf gynhwysfawr sy’n trafod llawer o agweddau ar yr amgylchedd, felly i wneud pethau’n haws mae’r prif bwyntiau sy’n ymwneud â gwastraff yn y rhestr isod. Nid yw hon yn rhestr gyflawn, a hoffwn eich cynghori chi i geisio cyngor os nad ydych yn siŵr am y gofynion.

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

Mae Adrannau 34, 37 a 47 yn datgan bod rhaid gwneud y canlynol yn unol â’r gyfraith:

  • Sicrhau y caiff sbwriel eich busnesau ei storio, ei drin, ei ailgylchu a’i waredu mewn modd diogel a chan fusnesau trwyddedig yn unig. Bydd angen i unrhyw un sy’n gwaredu’ch gwastraff fod yn ddeiliad Trwydded Cariwr Gwastraff. Gallwch weld a oes gan fusnes drwydded drwy fynd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu Asiantaeth yr Amgylchedd.
  • Cadwch gofnod ffurfiol o’r hyn sy’n digwydd i’ch ailgylchu a’ch gwastraff gan ddefnyddio nodyn Trosglwyddo Gwastraff (NTG). Bydd rhaid i chi a’r cariwr gwastraff cofrestredig sy’n casglu’ch sbwriel lofnodi’r NTG. Os ydych yn mynd â’ch gwastraff ac ailgylchu i safle awdurdodedig, cewch NTG fel prawf o waredu. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Gov.uk.
  • Cadwch gofnod ffurfiol o bob NTG am o leiaf dwy flynedd. Gall swyddogion y Cyngor wneud cais i weld y rhain wrth ymgymryd â gwiriadau arferol dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Bydd peidio â chyflwyno dogfennaeth yn arwain at ddirwy o £300 neu eich erlyn yn y llys lle gellir rhoi dirwy o hyd at £5,000 i chi. Y ddirwy fwyaf am waredu gwastraff yn anghyfreithlon yw £50,000 neu bum mlynedd yn y carchar.
  • Dylech fod â thrwydded cariwr gwastraff os ydych am gludo a gwaredu’ch gwastraff eich hun. Gallwch brynu’r rhain gan Gyfoeth Naturiol Cymru
  • Sicrhewch fod yr holl wastraff wedi’i gyflwyno yn y cynwysyddion cywir fel y mynno’r contractwr gwastraff ac fel y nodir yn eu NTG. Bydd unrhyw wastraff sy’n cael ei gyflwyno yn y cynhwysydd neu lestr anghywir (megis bag du) o bosibl yn cael ei wirio a gall arwain at hysbysiad cosb benodedig a dirwy.
  • Dylech lynu at gyfyngiadau amser o ran cyflwyno gwastraff. Byddwch yn derbyn amseroedd cyflwyno penodol gan eich contractwr casglu gwastraff dewisol, yn dibynnu ar eich lleoliad a’r amserlen gasglu.

Os arwyddwch gontract â Thîm Gwastraff Masnachol Cyngor Caerdydd, byddwn yn eich helpu i fodloni’r holl ofynion cyfreithiol arnoch o ran storio a gwaredu gwastraff. Mae hyn yn cynnwys ein Cynllun Dyletswydd Gofal, sy’n sicrhau bod yr holl  ddogfennaeth gyfreithiol yn gyfredol. Bydd eich rheolwr contract a gweddill y tîm ar gael o hyd i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich cyfrifoldebau.

Dolenni defnyddiol

© Cardiff Council Commercial Waste Services - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd