Call 029 2087 xxxx

Rheoli gwastraff yn ystod digwyddiadau

Gallwn gynnig atebion rheoli gwastraff ar gyfer digwyddiadau lleol a mawr yn y ddinas.

Rydym wedi rheoli llawer o ddigwyddiadau poblogaidd, ar raddfa fawr fel:

  • Hanner Marathon Caerdydd,
  • Digwyddiadau’r Depo yn y Castell,
  • Tafwyl, a
  • Gŵyl Fwyd Bae Caerdydd.

Mae ein pecynnau pwrpasol yn gallu cynnwys amrywiaeth o wasanaethau, fel:

  • pob cynhwysydd gwastraff
  • llogi sgipiau
  • arwyddion
  • rheoli toiledau
  • clirio wyneb byrddau
  • rheoli gwastraff, a
  • chodi sbwriel

Gall ein tîm hefyd:

  • Weithio gyda chi cyn eich digwyddiad, i archwilio’r gwastraff sy’n dod i mewn a theilwra eich gwasanaeth i chi
  • Darparu cyfarwyddiadau addysgol i staff ar yr hyn sy’n mynd i ble, a
  • Cwblhau adroddiad rheoli gwastraff llawn, ar gyfer ystadegau wedi’r digwyddiad

Byddwn hefyd yn darparu gwasanaethau i chi yn ystod gosod a dadosod eich digwyddiad. Cysylltwch â ni os hoffech ddarganfod mwy a chael dyfynbris cystadleuol.

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd