Call 029 2087 xxxx
Man riding a red and black ATV on a green grass field, on a sunny day

Mae Gwastraff Masnach Caerdydd yn cynnig gwasanaeth compostio gwastraff gardd newydd

Ydych chi’n fusnes sy’n cynhyrchu gwastraff gardd?

Gallwch arbed arian ar eich casgliadau gwastraff cyffredinol drwy fanteisio ar ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd newydd, tra’n cyfrannu at weithredu cadarnhaol ar y newid yn yr hinsawdd.

Trwy gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn gyda Gwastraff Masnach Caerdydd, bydd eich gwastraff gardd yn cael ei droi’n adnodd gwerthfawr.  Efallai y bydd hyd yn oed yn cael ei ddefnyddio mewn prosiectau grwpiau cymunedol ac ysgolion, gyda gwastraff eich busnes yn cyfrannu at werth cymdeithasol ac amgylcheddol yn y Ddinas.

Cysylltwch â ni yn gwastraffmasnach@caerdydd.gov.uk i gofrestru heddiw. Gallwn gynnig biniau 240L neu 360L, a gesglir bob pythefnos ar ddydd Llun.

Byddwn yn treialu casgliadau gwastraff gardd ar gyfer busnesau dros y misoedd nesaf, a gobeithiwn y bydd ein cwsmeriaid yn manteisio i’r eithaf arnynt i’n galluogi i ehangu a pharhau â’r gwasanaeth.

© Cardiff Council Commercial Waste Services - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd