Newidiodd deddfwriaeth ailgylchu yng Nghymru ym mis Ebrill 2024. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith bellach i fusnesau ddidoli eu hailgylchu yn wahanol ffrydiau deunyddiau. Y deunyddiau yw:
– plastigau, metelau a chartonau
– papur a chardfwrdd
– gwydr, a
– gwastraff bwyd (os yw’ch busnes yn cynhyrchu dros 5kg yr wythnos).
Mae’n rhaid i chi wahanu:
– tecstilau sydd heb eu gwerthu, ac
– offer trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu;
Gall lleihau eich gwastraff ac ailgylchu mwy helpu i:
– arbed arian i’ch busnes, a
– lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Dilynwch ein hawgrymiadau i leihau gwastraff eich busnes.
Sut y gallwch leihau gwastraff eich busnes:
– Osgoi defnyddio cwpanau a chyllyll a ffyrc defnydd untro (tafladwy)
– Cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Blaenori Post i leihau faint o bost sothach yr ydych yn ei dderbyn.
– Peidiwch â gorddefnyddio deunydd pacio gydag eitemau i’w cludo neu unrhyw beth yr ydych yn ei anfon drwy’r post;
– Argraffwch yn ôl yr angen yn unig ac argraffwch ar ddwy ochr y ddalen i arbed papur;
– Gweithiwch gyda’ch cyflenwyr i ddod o hyd i ddewisiadau cynaliadwy a gwastraff isel amgen ar gyfer eitemau y byddwch chi’n eu prynu’n aml
– Ewch yn ddigidol ac arbed papur trwy ddefnyddio dewislenni cod QR, derbynebau digidol a systemau archebu ar-lein.
Ailddefnyddio:
Sut y gallwch wella cynaliadwyedd eich busnes:
– Ailddefnyddiwch ddeunyddiau megis bocsys cardfwrdd, papur lapio swigod ac amlenni.
– Ailgylchwch olew coginio
– Defnyddiwch fanc cwpanau amldro y gall staff ei ddefnyddio os ydyn nhw eisiau diod boeth tecawê. Gallwch hefyd gynnig gostyngiad bach ar ddiodydd i gwsmeriaid sy’n dod â’u cwpan eu hunain.
– Anogwch y defnydd o boteli dŵr amldro
– Os oes gennych ffreutur staff, anogwch staff i ddod â’u cynwysyddion eu hunain trwy gynnig gostyngiad bach ar fwyd.