Call 029 2087 xxxx

 

Eitemau anghywir (halogiad)

Os rhowch eitemau anghywir yn eich biniau ailgylchu neu wastraff bwyd, ni fyddwn yn eu casglu. Bydd angen i chi dynnu’r eitemau anghywir a chyflwyno’r bagiau eto ar eich diwrnod casglu nesaf. Neu gallwch dynnu’r eitemau anghywir a gwneud cais am ailgasgliad â thâl a byddwn yn eu casglu ar y dyddiad nesaf sydd ar gael gennym.

Os na allwch dynnu’r eitemau anghywir, gallwch wneud cais am ailgasgliad â thâl fel gwastraff cyffredinol. Byddwn yn cynnig y gwasanaeth hwn i chi i’ch galluogi i ddechrau o’r newydd, ond yna bydd rhaid i chi ddilyn y cyngor addysgol a roddir.

 

Dysgwch ba eitemau i’w rhoi yn eich cynwysyddion yma.

 

Gwastraff bwyd neu ailgylchu yn eich bin gwastraff cyffredinol

Mae gennych ddyletswydd gofal i sicrhau nad oes unrhyw wastraff bwyd (dros 5kg) nac ailgylchu yn cael eu rhoi yn eich cynhwysydd gwastraff cyffredinol (na ellir ei ailgylchu). Mae gennym ddyletswydd gofal i beidio â chasglu cynwysyddion gwastraff cyffredinol pan fyddwn yn amau bod eitemau y gellir eu hailgylchu neu fwyd y tu fewn iddynt.

Byddwn yn rhoi addysg a chymorth i chi i’ch helpu i roi’r deunyddiau hyn yn y cynwysyddion cywir. Fodd bynnag, os nad yw’r sefyllfa’n gwella, gallem wrthod casglu eich cynhwysydd.

 

Cynhwysydd sy’n rhy drwm/yn orlawn

Efallai na fydd modd i ni gasglu eich cynhwysydd yn ddiogel os bydd yn rhy drwm. Mae terfynau pwysau ar offer codi ein cerbydau. Cyfarwyddir ein tîm i godi cynwysyddion sydd o fewn eu gallu corfforol yn unig i sicrhau eu diogelwch. Os yw eich cynhwysydd yn rhy drwm, bydd angen i chi dynnu rhywfaint o’r gwastraff a’i gyflwyno ar eich dyddiad casglu nesaf. Neu gallwch dynnu rhywfaint o’r gwastraff a gwneud cais am ailgasgliad â thâl a byddwn yn ei gasglu ar y dyddiad nesaf sydd ar gael gennym.

 

Dim mynediad

Os nad oes mynediad i gasglu eich cynhwysydd yn ddiogel, yn anffodus ni fyddwn yn gallu dychwelyd i’w gasglu. Bydd eich cynhwysydd yn cael ei gasglu ar eich diwrnod casglu nesaf. Neu gallwch wneud cais am ailgasgliad â thâl ar y dyddiad nesaf sydd ar gael gennym.

 

Cynhwysydd wedi’i ddifrodi

Efallai na fydd modd i ni gasglu eich cynhwysydd yn ddiogel os bydd wedi’i ddifrodi. Bydd ein tîm yn adrodd amdano ar eich rhan, a rhoddir un newydd i chi.

Os ydych chi’n defnyddio biniau neu sachau ar gyfer eich ailgylchu, rhaid gosod yr eitemau’n rhydd – dim bagiau plastig untro.

© Cardiff Council Commercial Waste Services - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd